Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystad carchardai i oedolion – Ymchwiliad gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgConsultationDisplay.aspx?ID=344 

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 14 Mai 2019. Anfonwch eich safbwyntiau at: SeneddHealth@cynullaid.cymru

Dyma ymateb Gofal Cymdeithasol Cymru.

Sefydlwyd Gofal Cymdeithasol Cymru (o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2014) ym mis Ebrill 2017 gan ddod â rheoleiddio’r gweithlu, datblygu’r gweithlu a gwella gwasanaethau gofal cymdeithasol o dan un sefydliad. Mae gennym rôl ddylanwadol yn y gwaith o lywio blaenoriaethau ymchwil a meithrin cysylltiadau cryf gyda rhanddeiliaid i wella gofal a chymorth. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gyfrifol hefyd am ddatblygu’r gweithlu yn y sector gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar. Mae ein gwaith yn ceisio cefnogi blaenoriaethau llesiant cenedlaethau’r dyfodol ar gyfer y sector, y cyhoedd a Llywodraeth Cymru.

Mae ein tri nod strategol isod yn diffinio’r hyn rydym yn ei wneud:

               meithrin hyder y cyhoedd

               arwain a chefnogi gwelliant

               datblygu’r gweithlu

 

Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Sarah McCarty

Cyfarwyddwr Gwella a Dysgu

Gofal Cymdeithasol Cymru

Tŷ Southgate

Wood Street

Caerdydd CF10 1EW

 

Gallai fod yn ddefnyddiol i’r Pwyllgor fod yn ymwybodol o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Gyngor Gofal Cymru (Gofal Cymdeithasol Cymru bellach) i ddarparu adnoddau dysgu a hyfforddiant i gefnogi gweithrediad Rhan II o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a chyfrifoldebau newydd ar awdurdodau lleol am garcharorion sy’n oedolion ag anghenion gofal cymdeithasol.

Yn 2015-16, comisiynodd y Cyngor Gofal y Sefydliad Gofal Cyhoeddus i ddatblygu deunyddiau hyfforddi dwyieithog ar asesu a diwallu anghenion unigolion yn yr ystad ddiogeledd. Roedd angen i’r deunyddiau hyfforddi ychwanegol hyn ategu a bod yn gyson â’r modiwlau craidd presennol, h.y. deniadol, hygyrch a llawn gwybodaeth ac adlewyrchu ysbryd yn ogystal â llythyren y gyfraith.

Datblygwyd deunydd codi ymwybyddiaeth ar gyfer y gweithlu ehangach, gan gynnwys modiwl e-ddysgu ynghyd â deunydd mwy trylwyr ar gyfer y rhai yr effeithiwyd fwyaf ar eu rolau. Gellir lawrlwytho’r deunyddiau o

https://gofalcymdeithasol.cymru/hub/hub-resource-sub-categories/ystad-ddiogeledd-asesu-anghenion

https://gofalcymdeithasol.cymru/hub/hub-resource-sub-categories/ystad-ddiogeledd-gweithio-gyda-phobl

Yn y lle cyntaf, gofynnwyd i’r Sefydliad Gofal Cyhoeddus ddarparu deunyddiau trylwyr i fynychwyr o’r gweithlu awdurdod lleol, iechyd a’r ystad ddiogeledd mewn cyfres o dri gweithdy ym mis Mehefin 2016. Fodd bynnag, mewn cyfarfod gyda sefydliadau ystad ddiogeledd ac awdurdodau lleol ym mis Ebrill 2016, cytunwyd i addasu’r ddarpariaeth, h.y. i’r Sefydliad Gofal Cyhoeddus i ddarparu hyfforddiant pwrpasol ym mhob sefydliad ystad ddiogeledd ac yn unol ag amserlen a gytunwyd gyda phob ardal.

Yn sgil hynny, darparodd y Sefydliad Gofal Cyhoeddus hyfforddiant pwrpasol ym mhob un o’r pedwar carchar/ardal. Mae adroddiad ar yr hyfforddiant hwn a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2017, gan gynnwys dysgu trosfwaol, ar gael os yw’r Pwyllgor yn credu y byddai’n ddefnyddiol.